Mae ein hymrwymiad i wasanaethu ein cwsmeriaid yn dechrau drwy adeiladu tîm cryf, uchel ei gymhelliant. Yn ddiweddar, dathlom chwe mis ers cychwyn Llanw, ac roedd yr adborth gan ein tîm yn gyffredinol gadarnhaol. Yn wir, dywedodd 87.2% o aelodau’r tîm y byddent yn argymell Llanw fel lle gwych i weithio ynddo!
Mae hyn yn adlewyrchu’r diwylliant cefnogol a chadarnhaol rydym wedi’i greu, sy’n effeithio’n
uniongyrchol ar ansawdd y gwasanaeth a ddarparwn i chi, ein cwsmeriaid gwerthfawr.
Sut Mae Adborth yn Ein Helpu i’ch Gwasanaethu’n Well
Rydym yn gwybod bod gwasanaeth gwych yn dechrau gyda gwrando, ac mae hyn yn berthnasol i’n cwsmeriaid ac i’n tîm. Mae’r adborth a gasglom gan ein tîm nid yn unig yn ymwneud a gwella’r gweithle ‒ mae hefyd yn ymwneud â sicrhau ein bod yn parhau i roi’r profiad gorau posibl i chi.
Mae’r ffocws hwn ar welliant parhaus yn golygu ein bod bob amser yn ymdrechu i wella ein heffaith ar eich bywyd ac yn y gymuned.
Gair gan Ein Rheolwr Gyfarwyddwr, Paul Price:
“Rydyn ni’n sefydliad sy’n rhoi pwyslais ar ddiweddaru ein cydweithwyr ar ein perfformiad ac i ba gyfeiriad rydym yn symud. Mae’n bwysig i ni fod pawb yn teimlo’n gysylltiedig â’r darlun mawr ac yn deall sut rydym oll yn cyfrannu at lwyddiant Llanw. Rydym hefyd yn credu mewn buddsoddi yn natblygiad ein cydweithwyr. Mae hyfforddiant yn rhan allweddol o’n strategaeth, gan ei fod yn grymuso pawb i ddarparu gwasanaeth gwell i’n cwsmeriaid a thyfu o fewn y sefydliad.”
Gan Edrych Tua’r Dyfodol
Wrth i ni edrych tua’r dyfodol, byddwn yn defnyddio’r mewnbwn hwn i wella’r ffordd rydym yn rhedeg digwyddiadau ac yn llunio dyfodol Llanw.
Os hoffech fod yn rhan o gwmni sy’n gwerthfawrogi ei gydweithwyr ac sy’n buddsoddi yn eich twf, bwriwch olwg ar ein swyddi gwag presennol. Rydym bob amser yn chwilio am unigolion i ymuno â’n tîm a’n helpu i barhau i ddarparu gwasanaeth eithriadol i’n cwsmeriaid.