Carfan gyntaf Academi Brentisiaethau Llanw

Rydym yn gyffrous i gyhoeddi ein bod wedi cychwyn Academi Brentisiaethau Llanw yr wythnos diwethaf drwy wahodd chwe phrentis newydd ac wyth cydweithiwr Llanw, a wirfoddolodd i weithredu fel mentoriaid, i ddod i adnabod ei gilydd drwy rhannu
pitsa.

Mae Llanw yn ymroddedig i wella Pen-y-bont ar Ogwr a Chymru. Trwy fuddsoddi mewn prentisiaethau, ein nod yw ehangu ein gweithlu wrth ddarparu cyfleoedd gyrfa gwerthfawr i unigolion lleol.

Yn ystod y digwyddiad, trafodwyd ‘yr wybodaeth angenrheidiol’ a gofynnwyd i’r mentoriaid roi cyflwyniad cyflym o’u hunain a’u crefftau. Roedd hyn yn ffordd wych o gael pawb i ddechrau sgwrsio, yn enwedig am fod rhai o’r mentoriaid hefyd wedi dechrau fel prentisiaid gyda ni.  

Bydd ein prentisiaid yn dechrau gyda ni ym mis Medi 2024 a bydden nhw gyda ni am 2 i 3 blynedd. O’r cychwyn cyntaf, byddant yn mynd i weithio ar atgyweiriadau ochr yn ochr â’n cydweithwyr profiadol Llanw i’w helpu i ddysgu, i fagu eu hyder ac i feithrin perthynas gyda chi – dywedwch helô wrthynt os byddwch chi’n eu gweld nhw.

Yn olaf, diolch i’n gwirfoddolwyr Llanw am y croeso cynnes a roddwyd i’n recriwtiaid. Mae eu gallu i ysbrydoli pobl eraill trwy ymagwedd mor ymlaciol ac agos-atoch yn allweddol i helpu i arwain y genhedlaeth nesaf.

Rydym yn anelu at gynnig cyfleoedd prentisiaethau blynyddol i bobl yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr a’r cyffuniau felly cadwch lygad allan os hoffech chi ymuno â charfan y flwyddyn nesaf.