Yr wythnos ddiwethaf, cynhaliwyd grŵp ffocws i denantiaid yng Nghanolfan Gymunedol Bryncethin i glywed gennych chi – ein cwsmeriaid – sut gallwn wneud Llanw yn fwy cynhwysol.
Dechreuodd y digwyddiad gyda chroeso cynnes a chyfle i gwsmeriaid gymdeithasu wrth fwynhau mins-peis.
Yr uchafbwyntiau
● Esboniodd Ross Thomas o Dai Pawb sut gall gwrando ar brofiadau cwsmeriaid ein gwneud yn ymwybodol o’n rhagfarnau anfwriadol
● Disgrifiodd Paul Price, Rheolwr Gyfarwyddwr Llanw, ein llwyddiannau diweddar ac atebodd gwestiynau cwsmeriaid
● Gofynnodd y Rheolwr Dysgu, Datblygiad a Pherfformiad, Mike Gubb, i’r mynychwyr sut gallwn wella ein gwasanaeth i gwsmeriaid
Beth ddywedodd ein cwsmeriaid?
Rhannodd ein tenantiaid storïau cynhyrfus am eu profiadau bywyd ac roedd yn anodd clywed rhai ohonynt. Ond rydym yn gwybod y bydd gwrando ar bobl yn ein helpu i wella ein gwasanaethau. Dyma rai o’r pethau y dywedodd ein cwsmeriaid eu bod eu heisiau gennym:
● “Paratowch yn well cyn ymweld â chartref rhywun sydd ag anabledd”
● “Esboniwch y gwaith atgyweirio i mi gan na alla i weld sut mae’n mynd yn ei flaen”
● “Peidiwch â gadael ceblau rhydd o gwmpas gan fod gen i nam ar y golwg a gallwn faglu”
● “Rhowch fwy o wybodaeth i ni cyn i’r gwaith ddechrau, fel y byddaf yn gwybod beth i’w ddisgwyl”
● “Byddwch yn gwrtais a chreu naws bersonol”
Adborth yn y dyfodol
Roedd yr holl fynychwyr yn awyddus i ddod i ragor o gyfarfodydd yn y dyfodol a rhoddodd un ohonynt ddiolch i ni am “brynhawn bendigedig”.
Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yn y Flwyddyn Newydd am fwy o gacennau a sgyrsiau.
Hoffech chi gymryd rhan mewn sesiynau yn y dyfodol?
E-bostiwch ni yn customervoice@v2c.org.uk – byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.