Gwella Bodlonrwydd Cwsmeriaid trwy Ddydd Gwener Adborth

Mae’r misoedd diwethaf wedi bod yn brysur yn Llanw wrth i ni gyflwyno newidiadau drwy’r system atgyweirio newydd. Rydym yn falch o rannu peth o’r cynnydd o ran pa mor fodlon ydych chi â’n gwasanaeth.

Crëwyd Llanw i wella’r profiad atgyweirio i chi, a’n nod yw darparu gwasanaeth ardderchog o’r dechrau i’r diwedd. Er mwyn parhau i wella, rydyn ni wedi cyflwyno rhywbeth newydd o’r enw “Dydd Gwener Adborth”.

Ar ôl pob gwaith atgyweirio, rydym yn anfon neges testun atoch i ofyn sut aeth pethau. Gallwch raddio ein gwasanaeth ac ychwanegu unrhyw sylwadau. Gyda Dydd Gwener Adborth, os rhowch wybod i ni fod rhywbeth y gallem ei wella, byddwn yn eich ffonio ar ddydd Gwener i drafod sut gallwn wella yn y dyfodol.

Ein nod yw sicrhau bod eich adborth yn gwneud gwahaniaeth. Pan fyddwch yn dweud wrthon ni beth aeth o’i le, mae’n ein helpu i ddeall beth allwn ei wneud yn well a pharhau i wella.

Felly, beth ydyn ni wedi ei weld hyd yma?

Ers i ni ddechrau defnyddio ein system atgyweirio newydd ar 17 Mehefin, rydym wedi derbyn 557 o ymatebion gan gwsmeriaid. O blith y rhain, dim ond 55 ddywedodd bod angen gwella rhywbeth. Mae hyn yn gyfradd o 90% o ymatebion cadarnhaol, sy’n dangos bod y newidiadau a wnaethom yn gweithio’n dda!

O ran y 10% o adborth sy’n dangos bod angen gwella arnom, bydd Dydd Gwener Adborth yn ein helpu i ystyried beth sy’n digwydd fel y gallwn wneud newidiadau yn y meysydd cywir.

Dyma enghraifft: Yn ddiweddar dywedodd cwsmer wrthym fod llwch wedi ei adael ar ôl gwaith atgyweirio. Rhannom hyn gyda’r tîm cyfrifol yn syth, gan sicrhau na fydd yn digwydd eto. Rhoesom wybod i weddill ein tîm hefyd fel bod pawb yn deall pwysigrwydd cadw’ch cartref yn lân yn ystod gwaith atgyweirio. Rydym eisiau i bawb ddysgu oddi wrth yr adborth a dderbyniwn.

Trwy wrando ar eich adborth, rydym yn dysgu mwy am beth sydd o bwys i chi, a bydd hyn yn ein helpu i barhau i wella. Edrychwn ymlaen at wneud mwy o welliannau eto yn y misoedd i ddod!