Rydym ar y Rhestr Fer ar gyfer Gwobrau Tai Cymru Eleni!

Eleni, cyflwynom ein hunain i Wobrau Tai Cymru ac rydym ar y rhestr fer ar gyfer Ymgyrch y Flwyddyn!

Mae Gwobrau Tai Cymru yn dathlu creadigrwydd, angerdd ac arloesedd gan sefydliadau tai a unigolion ar draws Cymru. Mae’n gydnabyddiaeth wych o’r gwaith a wnawn yn darparu cartrefi lle mae pobl yn teimlo’n hapus ac yn ddiogel.

Ymgyrch y Flwyddyn

Roedd cyfathrebu’n allweddol i lwyddiant ein hymgyrch Llanw. Defnyddiom amrywiaeth o adnoddau, o sioeau teithiol cymunedol i bostiadau cyfryngau cymdeithasol, i ddiweddaru a chynnwys y cyhoedd. Ail frandiwyd ein faniau fel bod Llanw yn weladwy drwy’r holl gymuned, ac adnewyddwyd ein swyddfeydd i adlewyrchu’r brand newydd yn well.

Trwy ddiwrnodau recriwtio, digwyddiadau untro ac ymgyrchoedd yn y cyfryngau, daeth presenoldeb Llanw yn amlwg ar draws Pen-y-bont ar Ogwr. Ac ar yr un pryd, helpodd y pecynnau croesawu personol a’r iwnifformau newydd ein cydweithwyr newydd i setlo’n falch. Chwaraeodd y cyfryngau cymdeithasol ran hanfodol, gyda diweddariadau rheolaidd a rhoddion rhyngweithiol i gadw diddordeb ein dilynwyr. Gorffennodd yr ymgyrch gyda chinio lansio a ddaeth â chwsmeriaid, cydweithwyr a rhanddeiliaid at ei gilydd i ddathlu lansiad swyddogol Llanw.

Beth Nesa?

Byddwn yn ymuno â phobl tai eraill ar 12 Rhagfyr, pan gyhoeddir yr enillwyr. Croesi bysedd y byddwn yn ennill gwobr y noson honno!