Fel y gwyddoch chi, rydyn ni bellach yn darparu eich gwasanaethau atgyweirio ar ran Cymoedd i’r Arfordir. Rydym wedi bod yn gweithio’n galed i wella eich taith atgyweiriadau ac, fel rhan o’r gwelliannau, pan fyddwch chi’n ffonio ein swyddfa o hyn ymlaen, byddwch chi’n sylwi ar ychydig o newidiadau.
Tan yr wythnos hon, roeddem yn gofyn a oedd eich galwd yn ymwneud ag atgyweiriad newydd neu atgyweiriad blaenorol yn unig cyn eich trosglwyddo i gynghorydd. Nawr, cyn eich trosglwyddo i siarad â rhywun, byddwn hefyd yn gofyn i chi i ba gategori y mae eich atgyweiriad yn perthyn – gwaith saer, trydanol, plymwaith a gwresogi, neu rywbeth arall. Os ydych chi’n dewis yr opsiwn anghywir, gallwch wasgu 1 i ddychwelyd i’r ddewislen.
Byddwch chi hefyd yn sylwi arnom yn ateb y ffôn drwy gyfarchiad newydd, llawen – “Helo, rydych chi wedi cyrraedd Llanw, y gwasanaeth atgyweiriadau ar ran Cymoedd i’r Arfordir”.
Sut bydd y newidiadau yn fy helpu i?
● Byddwch chi’n siarad â’r cynghorydd sy’n meddu ar y lefel uchaf o
wybodaeth am y math o atgyweiriad rydych chi’n ei ddewis
● Mae siarad â’r person cywir ar unwaith yn golygu eich bod yn fwy
tebygol o gael cyngor yn y fan a’r lle
● Byddwch chi’n treulio llai o amser yn aros am atebion
Mwy o welliannau i ddod
Hefyd, cyn hir, bydd gennych chi opsiwn i ddewis galwad yn ôl yn hytrach nag aros mewn ciw pan fydd amseroedd aros yn rhy uchel.
Rhowch eich barn i ni!
Os ydych chi’n ein ffonio ni yn ystod yr wythnosau nesaf, byddwn yn gofyn i chi roi adborth ar y newidiadau i’r system ffonau. Nid yw’r newidiadau wedi cael eu pennu eto felly byddem yn gwerthfawrogi eich barn o ran a oedd yr opsiynau newydd yn ddefnyddiol i chi ai peidio – a pham.