Sicrhau Cartrefi Diogel a Hapus

Mae cartref diogel, cyfforddus yn fwy na tho uwch pennau ein cwsmeriaid yn unig – mae’n rhywle y gallant deimlo’n dawel eu meddwl yn llwyr. Dyna beth sy’n ein sbarduno ni bob dydd.

Yn ddiweddar, cawsom gyfle i fynd allan gyda’n timau gwaith llafur a chael profiad llaw gyntaf o sut maent yn gwireddu’r diben hwn trwy’r gwaith atgyweirio y maent yn ei gyflawni.

Nid yw’r ymweliadau hyn yn fater o ddweud helo yn unig – maent yn ymwneud â gweld crefft ein timau wrth gyflawni pob tasg gan sicrhau bod pob atgyweiriad yn rhoi cysur i’n cwsmeriaid ac yn tawelu eu meddwl.

Yn ystod yr ymweliadau hyn, rydym hefyd wedi cynnal gwiriadau iechyd a diogelwch pwysig. Mae’r gwiriadau hyn yn rhan o’r hyn a elwir yn “ail reng o sicrwydd.” Yn syml, mae’n gam ychwanegol rydym yn ei gymryd ar ôl i’r gwaith cychwynnol gael ei gyflawni i sicrhau bod popeth yn bodloni ein safonau diogelwch uchel. Mae hyn yn golygu gwirio ddwywaith, nid yn unig bod atgyweiriadau’n cael eu cyflawni, ond, hefyd, eu bod yn cael eu cyflawni yn ddiogel gan ddiogelu ein cwsmeriaid a’n cydweithwyr sy’n cyflawni’r gwaith.

Bydd rhoi’r mesurau ychwanegol hyn ar waith yn ein galluogi i roi tawelwch meddwl. Gall ein cwsmeriaid deimlo’n ddiogel yn gwybod bod eu cartrefi’n ddiogel a gall ein timau gwaith llafur weithio’n hyderus gan wybod bod ganddynt y gefnogaeth gywir i gyflawni eu swyddi yn dda.

Diolch i Adrian Parry am gydlynu’r diwrnod a diolch yn fawr i bob un o’n cydweithwyr gwaith llafur sy’n cyflawni’r safon uchel hon o atgyweiriadau bob dydd.