Y Tu Mewn I’n Sgyrsiau Blwch Offer

Rydyn ni’n credu mewn creu gweithle cefnogol, cysylltiedig a chyfrannog lle mae pawb yn teimlo’n werthfawr. Y bore heddiw, cynhaliom un o’n Sgyrsiau Blwch Offer rheolaidd – cyfle gwych i’n tîm ddod at ei gilydd i rannu diweddariadau pwysig, a mwynhau coffi a rhôl cig moch mewn lleoliad hamddenol. Mae’r sesiynau hyn yn un o’n ffyrdd o sicrhau bod ein cydweithwyr yn cael gwybodaeth, ac yn cael eu clywed a’u grymuso. Dyma beth gafodd ei drin heddiw:

Rhannom y newidiadau arfaethedig yn y timau, wrth i ni anelu at wella ein gwasanaeth i gwsmeriaid.
Ymgynghorom â chydweithwyr ar drosglwyddo i Llanw i hyrwyddo ein twf a darparu canlyniadau gwell fyth i’n cwsmeriaid.


Mae diogelwch yn brif flaenoriaeth i ni. Oherwydd y cynnydd mewn damweiniau cerbydau ers mis Ebrill, rydym yn adolygu’r achosion ac yn tanio syniadau ynglŷn â ffyrdd o atal mwy o helyntion. Mae cadw ein cydweithwyr a’r cyhoedd yn ddiogel ar y ffyrdd yn hanfodol, ac rydym yn ymrwymedig i wella ein prosesau.


Cyflwynom Cysylltu Gwasanaethau, ein system atgyweirio newydd, sydd yn ein helpu’n barod i weld ble gallwn symleiddio prosesau a chlirio unrhyw dagfeydd mae ein cydweithwyr wedi’u nodi. Mae’r system hon yn gam sylweddol ymlaen wrth sicrhau bod y diwrnod gwaith yn fwy effeithlon i bawb.


Mae sicrhau bod ein cydweithwyr yn ddiogel, yn y gweithle ac wrth ymweld â chartrefi cwsmeriaid, yn allweddol i’n diwylliant. Heddiw, darparom hyfforddiant ar aflonyddu rhywiol, yn cynnwys y newidiadau diweddaraf yn y gyfraith, i sicrhau bod pawb yn gwybod sut i weithredu’n ddiogel ac yn barchus mewn unrhyw amgylchedd.


Mae deall ein cwsmeriaid wrth galon yr hyn a wnawn. Adolygom yr adborth ar beth sy’n mynd yn dda a nodi meysydd lle gallwn wella. Bydd y dirnadaethau hyn yn cael eu trafod mewn sesiynau un-i- un gyda chydgysylltwyr, a’u harchwilio ymhellach fel rhan o’n menter Dydd Gwener Adborth er mwyn sicrhau gwelliant parhaus.


Ymgysylltom â’n cydweithwyr i gasglu eu syniadau ar ein dathliad chwe mis sydd ar ddod. O’r pynciau yr hoffent eu trafod i ble dylem ei gynnal, a ph’un ai fyddai elfen gymdeithasol yn ein helpu i ymgysylltu’n well – bydd mewnbwn pawb yn llywio’r digwyddiad carreg filltir hwn.


Yn Llanw, nid dim ond y gwaith sy’n cyfrif – mae’n ymwneud â chreu amgylchedd lle mae pobl yn teimlo’u bod yn cael eu cefnogi, eu clywed, ac yn rhan o dîm. Os ydych chi’n chwilio am weithle sy’n gwerthfawrogi cyfathrebu, cyfranogiad a thwf, efallai mai Llanw yw’r lle i chi. Bwriwch olwg ar ein swyddi gwag diweddaraf.