Ymunwch â’n tîm
Ymunwch â’n tîm

Gweithio gyda ni

Ydych chi eisiau ymuno â sefydliad sy’n ddibynadwy fel y llanw, yn adfywiol yn gyson ac yn ddiwyro o ddibynadwy? Dyna beth rydyn ni am ei gyflawni! Os yw hyn yn swnio fel chi, edrychwch ar y cyfleoedd sydd ar gael. 

Gweler y swyddi gwag presennol

Yn barod i ymuno â'n tîm deinamig?

yma rai o'r buddion rydyn ni'n eu cynnig yn gyfnewid am eich ymrwymiad...

Eich gwobrwyo chi am fynd y filltir ychwanegol

Byddwch yn derbyn cyflog teg am eich gwaith caled gyda goramser yn cael ei dalu ar gyfradd fesul awr, gan eich galluogi i ennill incwm ychwanegol yn seiliedig ar eich argaeledd a'ch llwyth gwaith. Rydym yn gwerthfawrogi eich cyfraniadau ac yn dathlu'ch cyflawniadau trwy wobrwyon perfformiad yn seiliedig ar gyflawni DPA blynyddol. Ni fydd eich ymroddiad a'ch gwaith caled yn cael ei anwybyddu.

Gofal iechyd am ddim

Rydym yn un teulu mawr yn grŵp tai Cymoedd i’r Arfordirac rydym eisiau gofalu amdanoch chi a’ch teulu hefyd. Dyna pam y byddwch yn elwa’n awtomatig o gynllun arian gofal iechyd i’ch helpu i dalu am filiau iechyd hanfodol, yn ogystal â rhoi mynediad 24 awr i chi at gyngor meddyg teulu, cwnsela a mwy.

Cyfraniadau pensiwn hael

Rydym yn cydnabod ei bod yn bwysig cynilo arian ar gyfer eich ymddeoliad, a dyna pam rydym yn cynnig cyfraniad misol hael i’r Cynllun Pensiwn Tai Cymdeithasol, y byddwch yn cael mynediad awtomatig ato’n fuan ar ôl i chi ymuno â ni. Byddwn yn cyfrannu 2% yn fwy na chi bob mis a gallwch ddewis faint rydych eisiau ei dalu i mewn – er enghraifft:
Byddwch chi'n talu Byddwn ni'n talu
4% 6%
5% 7%
6% 8% (uchafswm)

Cydnabyddiaeth a gostyngiadau

Pan fyddwch yn cadw at ein gwerthoedd, byddwn yn sicrhau eich bod yn cael cydnabyddiaeth. Yn ogystal â digwyddiadau blynyddol i gydnabod cydweithwyr, byddwn yn dathlu eich llwyddiannau ac yn llongyfarch eich dyfalbarhad – oherwydd rydym yn gwybod fod diolch yn mynd yn bell. Efallai y byddwch hyd yn oed yn cael eich cynnwys ar ein Wal Wych, man ar-lein arbennig lle mae cydweithwyr yn cysylltu i dynnu sylw at gyflawniadau a dathliadau personol ei gilydd. Yma byddwch hefyd yn cael mynediad at filoedd o ostyngiadau manwerthu i’ch helpu i arbed arian ar hanfodion a moethau bob dydd, adnoddau iechyd a lles am ddim, blogiau’r cwmni a llawer mwy.

Amser i gyfrannu at gymunedau Pen-y-bont ar Ogwr

Fel sefydliad sydd wrth galon Pen-y-bont ar Ogwr, rydym eisiau i’n presenoldeb gael ei deimlo am y rhesymau iawn. Felly, bob blwyddyn byddwn yn rhoi diwrnod â thâl i chi ei dreulio’n gwirfoddoli yn y gymuned at achos sy’n agos at eich calon. Gallai hwn fod yn un diwrnod, neu gallwch ei gymryd fesul awr a’i ledaenu dros y flwyddyn. Rydym hefyd yn codi arian ar gyfer ein Helusen y Flwyddyn, y pleidleisir drosto’n flynyddol gan ein cydweithwyr – cyfle i gael hwyl gyda’n gilydd wrth gyfrannu at achos lleol teilwng. 

Clwb Chwaraeon & Chymdeithasol Bywiog

Rydym yn griw cyfeillgar ac os ydych chi’n barod amdani gallwch chi ymuno â’n clwb chwaraeon a chymdeithasol i fanteisio ar ddigwyddiadau cymdeithasol ar ôl gwaith ac ar benwythnosau! Mae yna bob math o bethau’n digwydd, yn cynnwys teithiau siopa a gweithgareddau chwaraeon os ydych ffansi, neu gallwch ymuno â’n raffl diwrnod cyflog am gyfle i ennill gwobr ariannol i ychwanegu at eich pecyn cyflog!

A llawer iawn mwy...

  • Te a choffi am ddim a chwpwrdd pantri y gallwch fanteisio arno pan rydych yn teimlo’n llwglyd neu wedi anghofio eich cinio
  • Parcio am ddim ar y safle a pharcio â chymhorthdal yng nghanol y dref pan fyddwch yn dod i mewn i’r gwaith
  • Gwisg y cwmni os oes ei angen ar gyfer eich swydd
  • Mynediad am ddim i wyth canolfan hamdden Halo am y chwe wythnos gyntaf a thocyn saith diwrnod ar gyfer aelodaeth ’Cadw’n Heini gyda’n Gilydd’
  • Dim ffi gofrestru a gostyngiad ar gyfleusterau meithrinfa Coleg Penybont
  • Cynllun beicio i’r gwaith, sy’n eich galluogi i elwa ar feic a/neu ategolion di-dreth, hyd at £1,000 i’ch helpu i deithio i’r gwaith
  • Tâl mamolaeth a thadolaeth uwch ar ôl i chi fod yn gweithio gyda ni am flwyddyn
  • Digon o gyfleoedd i gymryd rhan mewn mentrau allweddol, gan gynnwys cynaliadwyedd a datgarboneiddio; cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant (EDI); a datblygiad yr iaith Gymraeg

Prentisiaethau

Beth sydd ar y gweill ar gyfer darpar brentisiaid?

  • Cyflog Prentisiaeth Cystadleuol
  • Sicrwydd o swydd ac ymrwymiad i ddyfodol diogel
  • Darperir dillad gwaith ac offer
  • 25 diwrnod o wyliau â thâl + Gwyliau Banc
  • 1 Diwrnod Gwirfoddoli â Thâl
  • Dros 20 mlynedd o brofiad yn y diwydiant cynnal a chadw ac atgyweirio
  • Cyfle i weithio ar dros 6000 o gartrefi