Mae’n bleser cael cyflwyno chwe aelod newydd o’r tîm: Samuel Flanagan, Ryan Powell, Lucas Dibble, Tyler Hood, Kaitlyn Hunt, a Logan Thorne Moore. Maen nhw wedi ymuno â ni fel ein trydanwyr a’n prentisiaid aml-fasnach diweddaraf, ac wedi bwrw ati’n gyflym i weithio wrth iddynt barhau â’u hastudiaethau yng Ngholeg Pen-y-bont ar Ogwr.
Cynlluniwyd eu rhaglen hyfforddi i’w helpu i ddatblygu sgiliau ymarferol, ennill gwybodaeth dechnegol, a chymhwyso popeth maent yn ei ddysgu at sefyllfaoedd byd go iawn. I roi profiad iddyn nhw y tu hwnt i’r broses sefydlu arferol, penderfynom feddwl ychydig yn wahanol. Ar ôl wythnos o ddysgu dwys, aethom â nhw ar ddiwrnod o Gerdded Ceunentydd – neidiau clogwyn a phopeth! Gallwch roi cip ar eu hantur yn y fideo isod.
Rhannodd Kaitlyn ei brwdfrydedd ynglŷn â’r amrywiaeth yn ei hwythnos gyntaf, gan ddweud: “Roeddwn yn y swyddfa am dri diwrnod – roedd hynny’n dipyn o hwyl, ond ddoe roeddwn ar y safle ac yma heddiw, rwy’n hapus iawn gyda’r cyfan!”
Rhoddodd Logan ei feddyliau am ei wythnos gyntaf hefyd: “Mae pawb yn y gweithle’n anhygoel. Doeddwn i ddim yn disgwyl y byddwn yn neidio oddi ar glogwyni erbyn diwedd yr wythnos!”
Roedd y diwrnod adeiladu tîm yn fwy na dim ond cael hwyl. Roeddem eisiau rhoi profiad byw o’n gwerthoedd craidd – gwerthfawrogi pobl, meddwl yn wahanol, a bod yn ddigon dewr i orffen y dasg. Cynlluniwyd y profiad cerdded ceunentydd i gryfhau clymau agosrwydd yn gynnar, ac mae’n ffordd ardderchog o ddangos pwysigrwydd ymddiriedaeth a gwaith tîm. Boed neidio oddi ar glogwyni neu gydweithio ar brosiectau, mae’n rhaid i’n cydweithwyr ddibynnu ar ei gilydd a goresgyn heriau gyda’i gilydd. Gosododd y gweithgaredd sefydlu hwn sylfaen gadarn ar gyfer y gwaith tîm cryf sy’n hanfodol, yn ein barn ni, ar gyfer llwyddiant.
Cadwch olwg am fwy o ddiweddariadau ar ein prentisiaid wrth iddynt barhau â’u taith!